Dyddiad: 8 Mai 2015

Pwnc: Ymgynghoriad ar Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)

 

Annwyl Syr/Madam

Mae’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn cynnal ymchwiliad i egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru).

Mae rhagor o fanylion am y Bil a’r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig i’w cael ar wefan y Cynulliad:

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=12573

Rhoddodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ddatganiad rhagarweiniol ar y Bil yn y cyfarfod llawn ar 5 Mai 2015. Gellir gweld cofnod y trafodion yn:

http://www.assembly.wales/en/bus-home/pages/rop.aspx?meetingid=3161&assembly=4&c=Record of Proceedings#214604 

Cylch gorchwyl

Dyma gylch gorchwyl yr ymchwiliad:

Ystyried—

- egwyddorion cyffredinol Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i:

- warchod adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig yn fwy effeithiol;

- wella’r mecanweithiau presennol ar gyfer rheoli’r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy;

- sicrhau bod penderfyniadau ynghylch yr amgylchedd hanesyddol yn cael eu gwneud mewn ffordd fwy tryloyw ac atebol.

- unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi’r darpariaethau hyn ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried,

- a oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil,

- goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 o’r Memorandwm Esboniadol,

- priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru wneud is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 o Ran 1 o’r Memorandwm Esboniadol).

Gwahoddiad i gyfrannu at yr ymchwiliad

Hoffai’r Pwyllgor eich gwahodd i gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i gynorthwyo’i waith o ystyried y Bil. Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddefnyddio’r cylch gorchwyl uchod i lunio eich ymateb. Os ydych yn ymateb ar ran sefydliad, dylech roi disgrifiad byr o rôl eich sefydliad.

Mae’r Pwyllgor yn croesawu cyfraniadau yn Gymraeg ac yn Saesneg, a gofynnwn i sefydliadau sydd â pholisïau/cynlluniau iaith Gymraeg ddarparu ymatebion dwyieithog, yn unol â’u polisïau gwybodaeth gyhoeddus. Bydd y Pwyllgor yn ystyried yr ymatebion i’r ymchwiliad ac yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar yn ystod tymor yr haf.


Os ydych am gyflwyno tystiolaeth, anfonwch gopi electronig ohoni i: SeneddCCLlL@Cynulliad.Cymru 

Fel arall, gallwch ysgrifennu at:

Clerc y Pwyllgor
Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd, CF99 1NA.

Dylai unrhyw dystiolaeth gyrraedd erbyn 19 Mehefin 2015.  Mae’n bosibl na fydd modd ystyried unrhyw ymateb a ddaw i law ar ôl y dyddiad hwn.

Er gwybodaeth, mae’r Pwyllgor wedi gofyn i’r rhai sydd wedi’u cynnwys ar y rhestr ddosbarthu atodedig anfon sylwadau.  Byddai’r Pwyllgor yn ddiolchgar pe baech yn gallu anfon copi o’r llythyr at unrhyw unigolion neu sefydliadau nad ydynt wedi’u cynnwys ar y rhestr hon, ond a hoffai gyfrannu at yr ymchwiliad o bosibl. Mae copi o’r llythyr hwn wedi’i roi ar wefan y Cynulliad ynghyd â gwahoddiad agored i gyflwyno sylwadau.

Datgelu gwybodaeth

Mae rhagor o fanylion am sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth yn www.cynulliadcymru.org/cy/help/privacy/help-inquiry-privacy.htm. Gofynnwn ichi sicrhau eich bod wedi ystyried y manylion hyn yn ofalus cyn cyflwyno gwybodaeth i’r Pwyllgor.

Canllaw ar gyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig

Ni ddylai’r dystiolaeth fod yn hwy na phum ochr tudalen A4. Dylid rhifo’r paragraffau, a dylai’r dystiolaeth ganolbwyntio ar y cylch gorchwyl fel y’i nodir uchod.

Mae’r Cynulliad wedi ymrwymo i ddarparu gwybodaeth hygyrch i’r gynulleidfa ehangaf bosibl. Diben y canllaw byr hwn yw cynorthwyo tystion sy’n cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i bwyllgorau. Bydd hyn yn galluogi’r Cynulliad i ddarparu gwybodaeth a gyflwynwyd gan eraill mewn modd hygyrch.

- Defnyddiwch Gymraeg a Saesneg clir - gan osgoi jargon diangen.

- Defnyddiwch ffont sydd o leiaf maint 12.

- Defnyddiwch Lucida Sans, sy’n ffont clir sans seriff.

- Peidiwch ag ysgrifennu testun dros luniau, graffeg neu ddyfrnodau.

- Lliwiau a chyferbyniad - dylai’r ysgrifen gyferbynnu gymaint â phosibl â’r cefndir: ysgrifen dywyll ar gefndir golau, ac ysgrifen olau ar gefndir tywyll.

- Peidiwch â defnyddio priflythrennau bloc, a cheisiwch osgoi defnyddio print trwm, print italig a thanlinellu.

Lle bo modd, dylid darparu gwybodaeth gan ddefnyddio Microsoft Word (ac ar y ffurflen a ddarperir) er mwyn sicrhau hygyrchedd. Pan fyddwch chi’n cyflwyno sgan neu PDF, yn enwedig pan fyddant yn llythyrau wedi’u llofnodi neu’n dablau o wybodaeth, dylech gyflwyno’r ddogfen Word wreiddiol gyda hi.

Yn gywir,

 

Christine Chapman AC / AM

Cadeirydd / Chair


 

Rhestr o ymgyngoreion

Llywodraeth Leol

Y 22 Awdurdod Lleol

Pennaeth Cynllunio’r 22 Awdurdod Lleol

Canolfan Arweinyddiaeth Llywodraeth Leol

Un Llais Cymru

Solace

Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Parciau Cenedlaethol Cymru

Cynghrair Cymdeithasau Parciau Cenedlaethol Cymru

Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Ymgyrch y Parciau Cenedlaethol

Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro

Parc Cenedlaethol Eryri

Cymdeithas Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru

Hanesyddol, archaeolegol, pensaernïol a chynllunio

Y pedair Ymddiriedolaeth Archaeolegol yng Nghymru (Clwyd- Powys; Dyfed; Morgannwg – Gwent; Gwynedd)

Y Gymdeithas Henebion

Cronfa Treftadaeth Bensaernïol

Cymdeithas Archaeolegol Cambria

Catalina Architecture Ltd

Cyngor Archaeoleg Brydeinig Cymru

Y Cyngor Dylunio

Y Gymdeithas Hanes Gerddi

Georgian Group

Headland Archaeology Ltd.

Cronfa Dreftadaeth y Loteri

Y Gymdeithas Tai Hanesyddol

History Research Wales

Sefydliad yr Archeolegwyr

Sefydliad Cadwraeth Adeiladau Hanesyddol

Cyngor Rhyngwladol Henebion a Safleoedd

Y Cyd-bwyllgor Polisi Archaeoleg Forol

Mango Planning and Development Limited

Cymdeithas Hanes a Chofnodion Sir Feirionnydd

Cymdeithas Hynafiaethwyr Sir Fynwy

Cymdeithas Genedlaethol Sefydliadau Hanes Mwyngloddio

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Cymdeithas Hanes Sir Benfro

Arolygiaeth Gynllunio Cymru

Prospect Heritage Group

Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru

Cymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru

Y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru

Save Britain's Heritage

Y Gymdeithas Ymchwil Forol

Y Gymdeithas Gwarchod Adeiladau Hynafol

Cymdeithas yr Ugeinfed Ganrif

Y Gymdeithas Fictorianaidd

Trysor

Cymdeithas Melinau Cymru

Ymddiriedolaeth Addoldai Cymru

Amgueddfeydd

Ffederasiwn Amgueddfeydd ac Orielau Celf Cymru

Cronfa Goffa'r Dreftadaeth Genedlaethol      

Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan

Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Amgueddfa Lechi Cymru

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

Eraill

Cymdeithas Ddinesig Aberystwyth

Yr Holl Awdurdodau Tân ac Achub

Holl Awdurdodau Heddlu

ClymuCelf

Cyngor Celfyddydau Cymru

Cywaith Cymru

Cymdeithas Barnwyr Rhanbarth

Y Gronfa Loteri Fawr – Cymru

Ymddiriedolaeth Gelfyddydau Brycheiniog

Cymdeithas Brycheiniog a Chyfeillion yr Amgueddfa

Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain

Dyfrffyrdd Prydain Gogledd Cymru a’r Gororau

Dyfrffyrdd Prydain De Cymru a Hafren

Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig

Glandŵr Cymru

Ymddiriedolaeth Carnegie

Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth

Comisiynydd Plant Cymru

Cyngor ar Bopeth

Ymddiriedolaeth Ddinesig Cymru

Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy (menter ‘Y Gymru a Garem’)

Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru

Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad

Dr Mynors (Francis Taylor Building)

Cyfeillion Llong Casnewydd

Groundwork Gogledd Cymru

Cymru'r Gyfraith

Llysoedd Ynadon

Y Gymdeithas Cadwraeth Forol

Cyfoeth Naturiol Cymru

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Y Gymdeithas Mannau Agored

Ymddiriedolaeth Adfywio'r Tywysog

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

RenewableUK Cymru

Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig

Y Sefydliad Cymunedol yng Nghymru

Celfyddydau Gwirfoddol Cymru

Swyddfa Archwilio Cymru

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru

Cyswllt Amgylchedd Cymru

Fforwm Ymgynghorwyr Cynllunio Cymru

Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru

Cymdeithas Ddinesig Wrecsam

Academaidd/ymchwil

Prifysgol Aberystwyth

Prifysgol Bangor

Prifysgol Caerdydd

Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam

Sefydliad Joseph Rowntree

Prifysgol De Cymru

Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Sefydliadau cydraddoldeb

Age Cymru

Rhwydwaith Gwrthdlodi Cymru

Rhwydwaith Sector Gwirrfoddol Pobl Dduon Cymru

Sefydliad Bevan

Cyngor Gofal Cymru

Plant yng Nghymru

Cymdeithas yr laith Gymraeg

Cymru Yfory

Anabledd Cymru

Celfyddydau Anabledd Cymru

Diverse Cymru

Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru

Sefydliad Materion Cymreig

Anabledd Dysgu Cymru

Mencap Cymru

MEWN Cymru

Rhwydwaith Cydraddoldeb Hiliol

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall

Stonewall Cymru

Comisiynydd y Gymraeg

Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod

Menywod yn Gwneud Gwahaniaeth